Yws Gwynedd - Bae
Sengl Dawns Indi hafaidd newydd gan Yws Gwynedd wedi’i gynhyrchu a’i recordio gan yr amryddawn Rich James Roberts, sydd hefyd drymio i’r band. Mae’r trac yn enghraifft fywiog o naws cerddorol y band a’r cynhyrchydd. Mae Balafon N'famady Kouyate yn ymddangos ar y recordiad hefyd, a hon yw sengl cyntaf y band ers mis Awst y llynedd. Mae Bae yn dapestri cyfoethog o sain sy'n cyhoeddi'r albwm sydd i ddod, fydd yn cynnwys set llawn o draciau, sydd wedi'i recordio dros gyfnod o 2 flynedd. Mae'r albwm hir-ddisgwyliedig, gyda dyddiad rhyddhau wedi'i osod cyn diwedd y flwyddyn. I gyd-fynd a’r sengl, dyma fideo sydd yn wledd weledol ac yn serennu Saran Morgan a Gwion Morris Jones. Cerddoriaeth Yws Gwynedd Actorion Saran Morgan Gwion Morris Jones Cynhyrchydd a Cyfarwyddwr Aled Wyn Jones Is- Gynhyrchydd a Cyfarwyddo Elis Derbyshire DOP, Cyfarwyddo a Golygu Andy Pritchard Rheolwr Cynhyrchu Iona Rhys Gyda diolch i Cyngor Sir Conwy Welsh Highland Railway Caffi Spooners Prohibition Porthaethwy Prifysgol Bangor Alun Roberts Ffion Haf Catrin Morris Label cyhoeddi Recordiau Cosh Cynhyrchydd Rich Roberts Geiriau/Lyrics: Daw y tonnau nol i ganu’r un hen stori Hoel eu hanes yn yr ewyn gwyn ma’n fy atgoffa i o, be nes i anghofio Ble dwi angen dod i deimlo hyn Oni’n aros yma ben fy hun Nes i deimlo’r pwysa’n codi Nes i drio gafael yn dy lun I gael man i angori Nôl a nôl i’r bae Aros i dy lygid gau Dy lygid gau Bob yn hyn a hyn ma’n Amser newid siwrna Dal y gwynt i gyrraedd pen y bryn ond Os ti’n aros heno, fydd dy gorff yn cofio Ble ti angen dod i deimlo hyn Wyt ti’n trio neud o ben dy hun A ti’n trio peidio boddi Wyt ti’n trio aros ar ddi-hun I gael man i angori A ma cân yr ewyn erbyn hyn wedi canu diwedd stori Ond daw cyfle eto’i ddal yn dynn Rhwng bob ennyd sy’n bodoli Awn ni nôl i’r bae i weld y byd Awn ni weld y tonnau’n codi Nawn ni aros am ryw ddarn o hud I gael man, i angori
Download
0 formatsNo download links available.